Mae Mr Phormula yn un o arloeswyr y sîn bît-bocsio yn y DU. Wedi’i wreiddio’n ddwfn yn nhirwedd Cymru, mae’i berfformiadau ysbrydoledig a’i gyfansoddiadau lleisiol wedi rhoi cydnabyddiaeth ryngwladol i’w waith fel bît-bocsiwr, rapiwr a chynhyrchydd blaenllaw.

Mae doniau dwyieithog Mr Phormula yn unigryw ac mae hyn, ynghyd â’i rhythmau slic, llinellau bas cymhellol a’i ddawn leisiol, wedi datblygu cefnogwyr ymroddedig ym mhob rhan o Gymru, y DU ac UDA.  Ef yw pencampwr Lwpio Cymru ar hyn o bryd, ac yn 2013, bu’n is-bencampwr Lwpio’r DU.

Mae wedi gweithio gyda rhai o fawrion y byd hip hop gan gynnwys The Pharcyde, Jungle Brothers, Boy better Know, Plan B, Professor Green a’r chwedlonol Krs-One, ac mae hyn oll yn dangos ansawdd a chwmpas doniau cynhyrchu Mr Phormula sy’n ategu natur farddonol ei ddwyieithrwydd.

Mae Mr Phormula’n un o’r artistiaid mwyaf prysur yn sîn hip hop y DU, ac mae wedi perfformio mewn nifer o leoliadau, clybiau nos a gwyliau (gan gynnwys Neuadd Albert yn Llundain, un o lwyfannau mwyaf eiconig y byd), yn ogystal ag ymddangosiadau lawer ar deledu a radio cenedlaethol.

Mae’i waith newydd arloesol yn datblygu’r sîn hip hop yng Nghymru yn ogystal â hyrwyddo’r genre dwyieithog deinamig ar draws y byd.

"Mae Ed Holden aka Mr Phormula wedi glanio ar y sîn hip-hop Gymraeg gyda bang"

golwg360.cymru


MrPhormula's Facebook page MrPhormula's Twitter feed MrPhormula's Instagram account MrPhormula's videos Email MrPhormula
LATEST NEWS: